Os yr ydych am wneud cais i fod yn Arweinydd Digidol, disgwylir i chi gyflwyno eich cais i Mrs Davies erbyn dydd Llun,
Mehefin 2il, 2014.
Credyd i: photography.andreas (Flickr)
Sut?
Cewch gyflwyno eich cais mewn nifer o ffyrdd, er enghraifft:
1. Cyflwyno ffurflen gais AR BAPUR i Mrs Davies (fe welwch gopi o'r ffurflen yma)
2. Cyflwyno ffurflen gais yn ddigidol i Mrs Davies: sdavies@ysgolypreseli.com
3. Cyflwyno eich cais mewn modd creadigol ( i sdavies@ysgolypreseli.com neu ar USB i Mrs Davies) e.e.:
- fideo
- recordio llais
- cartŵn
- poster (gan gynnwys posteri rhyngweithiol e.e.Glogster)
- animeiddio
- cyflwyniad (e.e. Pwynt Pŵer, Prezi neu 'Sliderocket')
- neu unrhyw syniad arall!
POB LWC I CHI, A CHOFIWCH DRAFOD GYDA MRS DAVIES
(mewn person, neu drwy e-bost) os yr ydych am holi unrhywbeth!

No comments:
Post a Comment